Hygyrchedd
Achrediad hygyrchedd
Cymaint yw ein hymroddiad i hygyrchedd, rydym wedi gofyn i’r Ganolfan Hygyrchedd Digidol archwilio’r safle hwn o ran hygyrchedd. Cwblhawyd yr archwiliad diwethaf at 7 Gorffennaf 2014. Mae’r safle’n cael ei wella’n barhaus er mwyn ceisio achrediad y Ganolfan Hygyrchedd Digidol. Am ragor o wybodaeth ynghylch archwilio hygyrchedd gan y Ganolfan Hygyrchedd Digidol, ewch i wefan y Ganolfan Hygyrchedd Digidol.
Cydweddoldeb Porwr
Mae’r safle hwn wedi ei brofi ar draws llwyfannau ac ar draws porwyr ac ar hyn o bryd mae’n cydymffurfio â phorwyr byrddau gwaith modern yn cynnwys:
- Microsoft Internet Explorer 8+; a’r fersiwn ddiweddaraf o
- Mozilla Firefox;
- Apple Safari;
- Google Chrome; ac
- Opera.
Mae’r safle’n cydymffurfio â phorwyr symudol modern yn cynnwys:
- Safari (iOS) fersiwn 6+;
- y fersiwn ddiweddaraf o Chrome (iOS); ac
- Android Webkit (fersiwn 2.x a 4.x).
Adeiladwyd y safle’n defnyddio gwelliant cynyddol, felly dylai’r cynnwys fod ar gael i bob porwr. Serch hynny, efallai y cewch anhawster gyda hen fersiynau o’r porwyr hyn neu borwyr eraill o’r we. Os profwch anhawster, bydd croeso i chi gysylltu â ni.
Am ragor o fanylion am osodiadau hygyrchedd eich porwr, ewch i dudalennau cymorth a chefnogaeth gwerthwr y porwr.