Cod Ymddygiad y Gyfriflen Ariannol Safonol

Datblygodd y Gwasanaeth Cynghori Ariannol, mewn partneriaeth ag arbenigwyr yn y diwydiant, y Gyfriflen Ariannol Safonol (SFS) i’w defnyddio gan asiantaethau cynghori ar ddyledion, credydwyr a chyrff perthnasol eraill i gofnodi a chrynhoi amgylchiadau ariannol unigolyn, a, phan fydd hynny’n addas, rhoi’r wybodaeth hon i gredydwyr yr unigolyn hwnnw neu drydydd partïon perthnasol. Mae’n cynnwys set o ganllawiau gwario mewn tri maes gwario ‘hyblyg’. Bwriadwyd y canllawiau i’w defnyddio gyda chleientiaid sydd mewn gormod o ddyled a dylid eu defnyddio yn ôl hynny.

Bydd goruchwylio a datblygu’r SFS yn barhaus yn cael ei wneud mewn cydweithrediad â grŵp llywodraethu sy’n cynnwys ymarferwyr o’r diwydiant (a elwir yn Grŵp Llywodraethu SFS).

Mae’r defnyddwyr sy’n cadarnhau’r cod hwn yn cytuno i ddilyn y datganiad hwn o arfer da a byddant yn cael mynediad i’r ffurf i gofnodi data, y datganiad i’w anfon i dderbynwyr yr SFS, y canllawiau gwario, logo a chyfarwyddyd defnyddiwr. Bydd yr asiantaethau sy’n cadarnhau hefyd yn cael eu hychwanegu at gofrestr o aelodau’r Cod Ymddygiad ar wefan yr SFS.

Cynhwysir y dull Canllaw Gwario SFS fel atodiad.

Arfer Da SFS

Arfer da wrth ddefnyddio’r SFS yw:

  1. Defnyddio’r categorïau a nodir wrth gofnodi’r data (heb eu diwygio, dileu nac ychwanegu categorïau ychwanegol), fel y nodir yn y ffurf cofnodi data mwyaf cyfredol.  Dylai’r ffurf cofnodi data gael ei integreiddio â system y sefydliad ei hun, neu ei ddefnyddio trwy’r offeryn Microsoft Excel mwyaf cyfredol a gynhyrchwyd gan y Gwasanaeth Cynghori Ariannol.
  2. Defnyddio’r fersiwn ddiweddaraf o’r Canllawiau Gwario ar gyfer y tri chategori gwario hyblyg: cyfathrebu a hamdden; cadw tŷ a chostau personol fel y’u cyhoeddir gan y Gwasanaeth Cynghori Ariannol yn flynyddol o leiaf.
  3. Dim ond fel sy’n cael ei nodi yng nghyfarwyddyd defnyddwyr yr SFS y dylai’r Canllawiau Gwario gael eu rhannu â’r cyhoedd.
  4. Yr SFS sy’n cael ei gynhyrchu yn cynnwys y categorïau penodedig (heb unrhyw gategorïau ychwanegol, wedi eu diwygio nac wedi eu dileu) fel y nodir yn y gyfriflen fwyaf cyfredol a gynhyrchwyd gan y Gwasanaeth Cynghori Ariannol.
  5. Logo SFS yn cael ei gynnwys ar y gyfriflen a anfonir at dderbynwyr y Gyfriflen Ariannol Safonol, ynghyd â rhif fersiwn y gyfriflen sy’n cael ei defnyddio.
  6. Defnyddio’r cyfarwyddyd diweddaraf i ddefnyddwyr fel y mae wedi ei ryddhau gan y Gwasanaeth Cynghori Ariannol.
  7. Trosi i’r fersiwn ddiweddaraf ar y Llun cyntaf o Ebrill bob blwyddyn (oni nodir fel arall) pan fydd y Gwasanaeth Cynghori Ariannol yn cynhyrchu 
    diweddariad i’r ffurf cofnodi data, y gyfriflen i’w hanfon i dderbynwyr yr SFS, y Canllawiau Gwario, y logo a / neu gyfarwyddyd i ddefnyddwyr.
  8. Bydd yr aelod o’r cod yn cydweithredu gyda’r Gwasanaeth Cynghori Ariannol yn ddidwyll wrth ddangos ei fod yn cadw at yr arfer da hwn. Bydd hyn yn arbennig o wir pan fydd gwybodaeth i awgrymu nad yw’r asiantaeth yn cadw at y Cod Ymddygiad.   

Tynnu Aelodaeth o’r Cod yn Ôl

Y Gwasanaeth Cynghori Ariannol sydd yn berchen ar y logo SFS. Os bydd aelodaeth asiantaeth o’r cod yn cael ei dynnu yn ôl, bydd y Gwasanaeth Cynghori Ariannol yn tynnu ei ganiatâd i gynnwys y logo ar gyfriflenni ariannol yr asiantaeth honno yn ôl. Bydd mynediad i’r rhan gyfyngedig o wefan yr SFS hefyd yn cael ei dynnu yn ôl a bydd yr asiantaeth yn cael ei thynnu o’r gofrestr o aelodau’r cod ar wefan yr SFS.

Gall asiantaethau hefyd dynnu yn ôl o fod yn aelodau o’r cod SFS ar unrhyw adeg trwy ysgrifennu at y Gwasanaeth Cynghori Ariannol. Gall hyn ddigwydd ar unwaith neu ar ddyddiad y cytunir arno yn y dyfodol yn ôl disgresiwn yr aelod o’r cod.

Gweithredu parhaus ar yr SFS a’r Cod Ymddygiad

Diweddariadau i Ganllawiau Gwario, Ffurfiau, Cyfarwyddyd i Ddefnyddwyr a / neu Logo yr SFS.

Bydd y Gwasanaeth Cynghori Ariannol, ar y cyd â Grŵp Llywodraethu’r SFS, yn sicrhau bod yr SFS yn parhau yn berthnasol a chyfredol trwy gyhoeddi diweddariadau i’r ffurf cofnodi data, y gyfriflen i’w hanfon i dderbynwyr yr SFS, y Canllawiau Gwario, y logo a’r cyfarwyddyd i ddefnyddwyr o bryd i’w gilydd. Bydd Canllawiau Gwario’r SFS yn cael eu diweddaru yn flynyddol o leiaf. Os bydd y Gwasanaeth Cynghori Ariannol yn cyhoeddi diweddariad i unrhyw un o’r rhain, bydd aelodau yn cael o leiaf dau fis o’r ffigurau wedi eu diweddaru bob blwyddyn cyn iddynt ddod i rym ar ddydd Llun cyntaf Ebrill. Ond, os bydd newidiadau sylweddol, bydd y Gwasanaeth Cynghori Ariannol yn ymgynghori ag aelodau’r cod i gytuno ar gyfnod trosglwyddo digonol, a all fod yn hwy na dau fis.

Er mwyn bod yn glir yn ystod y cyfnodau trosglwyddo, bydd y Gwasanaeth Cynghori Ariannol yn cynnwys rhif fersiwn ar bob diweddariad. Fel y nodwyd ym mhwynt arfer da (5), wrth roi cyfriflenni i dderbynwyr yr SFS, dylai asiantaethau nodi pa fersiwn sy’n cael ei defnyddio.

Bydd y Gwasanaeth Cynghori Ariannol yn rhoi gwybod i aelodau’r cod am ddiweddariadau trwy e-bost i’r mannau cyswllt a roddwyd gan bob aelod o’r cod, yn cyfathrebu trwy gymdeithasau masnach, cyrff aelodaeth a chyfryngau perthnasol a thrwy adroddiadau ar wefan yr SFS.

Y berthynas rhwng y Gwasanaeth Cynghori Ariannol a Grŵp Llywodraethu’r SFS

Mae Grŵp Llywodraethu’r SFS yn cynnwys ymarferwyr perthnasol o’r diwydiant. Bydd yn cynorthwyo ac yn arwain y Gwasanaeth Cynghori Ariannol i oruchwylio datblygiad yr SFS a’r defnydd ohono, gan sicrhau ei fod yn parhau yn berthnasol ac effeithiol i’r sector. Bydd aelodau yn cael eu penodi fel y nodir yng Nghylch Gorchwyl y Grŵp. Mae’r Cylch Gorchwyl hefyd yn nodi dyletswyddau’r Grŵp, sut y bydd yn ystyried cadw at y cod ymddygiad hwn a’r broses i’w dilyn pan ddynodir methiant i gadw at y cod ymddygiad.   

Monitro Cadw at y Cod Arfer Da hwn

Bydd y defnydd o’r SFS yn cael ei fonitro gan y sector dyledion yn ehangach. Er enghraifft, disgwylir y bydd credydwr yn monitro defnydd asiantaeth cynghori ar ddyledion o’r gyfriflen trwy ei arferion goruchwylio parhaus arferol. Bydd y Gwasanaeth Cynghori Ariannol yn darparu mewnflwch e-bost (sfs.support@moneyadviceservice.org.uk) ar gyfer rhoi adroddiad am ddefnydd nad yw’n bodloni arfer da. Mae’r broses fydd yn cael ei dilyn pan dderbynnir yr adroddiadau hyn yn cael ei nodi hefyd yng Nghylch Gorchwyl Grŵp Llywodraethu’r SFS. 

 

ATODIAD

DULL Y CANLLAW GWARIO

 

Mae canllawiau gwario’r Gyfriflen Ariannol Safonol yn deillio o ddilyn y dull canlynol:

(1)          Lefelau gwariant a welwyd ymhlith aelwydydd nodweddiadol yn y Deyrnas Unedig yn cael eu dynodi.

(2)          Data gwariant manwl yn cael ei fapio i dri chategori gwariant costau hyblyg y Gyfriflen Ariannol Safonol.

(3)          Rhoddir lwfans wedyn i adlewyrchu cyfansoddiad yr aelwydydd o feintiau amrywiol, gan gynnwys niferoedd amrywiol o oedolion a phlant, gan ystyried y lefelau uwch sy’n angenrheidiol ar gyfer aelwydydd mwy.

(4)          Bydd y ffigyrau canllaw yn cael eu diweddaru yn flynyddol i adlewyrchu newidiadau mewn patrymau gwariant ar sail data a gymerwyd o arolwg Costau Bwyd a Byw yr ONS a / neu unrhyw amrywiadau sylweddol yn y Mynegai Prisiau Defnyddwyr. Bydd hyn yn sicrhau bod gwir werth y ffigyrau gwariant yn cael ei gadw dros amser. Bydd amrywiad 3% cadarnhaol neu negyddol mewn chwyddiant gwirioneddol o’r rhagolygon a ddefnyddir yn yr SFS yn cael ei hysbysu i’r Grŵp Llywodraethu, tra bydd amrywiad 5% cadarnhaol neu negyddol yn sbarduno adolygiad o’r ffigyrau presennol.

(5)         Bydd ystadegau wedi eu diweddaru yn cael eu cyhoeddi ar y wefan SFS bob blwyddyn. Bydd aelodau yn cael o leiaf dau fis o’r ffigurau wedi eu diweddaru bob blwyddyn cyn iddynt ddod i rym ar ddydd Llun cyntaf Ebrill.

(6)          Ymgynghorir â Grŵp Llywodraethu’r SFS cyn newid y canllawiau gwario.