Beth yw’r Gyfriflen Ariannol Safonol?

Mae’r Gyfriflen Ariannol Safonol (SFS) yn garreg filltir yn natblygiad cyngor ar ddyledion yn y Deyrnas Unedig, sy’n cynnig, am y tro cyntaf, gyfriflen incwm a gwariant gyffredinol, ynghyd ag un set o ganllawiau gwario.

Defnyddir yr offeryn i grynhoi incwm a thaliadau unigolyn, ynghyd ag unrhyw ddyledion sy’n ddyledus. Ar gyfer pobl sy’n chwilio am gyngor ar ddyledion y mae’r SFS yn bennaf, ac fe’i defnyddir ar y cyfan gan ddarparwyr cyngor ar ddyledion a sefydliadau eraill perthnasol.

Mae’n cynnig un ffurf ar gyfer cyfriflenni ariannol, gan roi cyfle i’r sector cyngor ar ddyledion a chredydwyr weithio gyda’i gilydd i gyflawni’r canlyniad iawn i bobl sy’n cael trafferth gyda’u sefyllfa ariannol.

Wedi ei gefnogi a’i ddatblygu mewn partneriaeth gyda rhanddeiliaid allweddol yn y sectorau dyledion a gwasanaethau ariannol, mae’r offeryn yn dwyn mwy o gysondeb a throsglwyddiad mwy llyfn trwy’r broses i ddefnyddwyr, cynghorwyr a chredydwyr.

Cyflwynwyd categori cynilion yn yr SFS, i gydnabod manteision creu gwytnwch ariannol i gleientiaid sy’n cael cyngor ar ddyledion. Disgwylir i’r lwfans cynilo bach hwn helpu i ddatblygu ymddygiad cynilo a chynyddu’r gallu i wrthsefyll sioc ariannol yn ystod cyfnod datrysiad i ddyled.

Pwy oedd yn rhan o ddatblygu'r Datganiad Safonol Ariannol?

Beth yw’r nodweddion allweddol?

Daw’r Gyfriflen Ariannol Safonol â’r manteision canlynol:

  • Un ffurf safonol i gasglu incwm a gwariant
  • Un set o Ganllawiau Gwario
  • Y gallu i gynnwys cyfraniad at gynilion mewn datrysiadau i ddyledion
  • Mwy o gysondeb yn y broses cyngor ar ddyledion i’r defnyddiwr, cynghorwyr a chredydwyr

  • Potensial ar gyfer rhannu data yn fwy lliflin rhwng sefydliadau sy’n helpu unigolyn mewn dyled ormodol

  • Egwyddorion a chyfarwyddyd arfer gorau i ddefnyddwyr

Ni fwriadwyd i’r SFS gael ei defnyddio gan y cyhoedd, felly os ydych yn aelod o’r cyhoedd sy’n chwilio am gymorth gyda phroblemau ariannol, gallwch ddefnyddio’r Offeryn canfod cyngor ar ddyledion gan y Gwasanaeth Cynghori Ariannol i gael cymorth.

Os ydych yn sefydliad sy’n ymwneud â’r sector cyngor dyledion a’ch bod am ddefnyddio’r SFS bydd angen i chi ymgeisio am god aelodaeth i gael mynediad at y deunyddiau a’r cyfarwyddyd cysylltiedig.

 

Beth sy’n digwydd i gyfriflenni ariannol eraill?

Y bwriad yw i’r SFS ddod yn unig ffurf a ddefnyddir gan y sector cynghori ar ddyledion, gan gymryd lle’r nifer o gyfriflenni ariannol amrywiol sy’n cael eu defnyddio ar hyn o bryd. 

Mae hyn yn cynnwys disodli’r Gyfriflen Ariannol Gyffredin (CFS), gyda sylfaenwyr y CFS (Yr Ymddiriedolaeth Cyngor Ariannol, BBA a’r FLA) yn rhan o grwpiau sefydlu a llywodraethu’r SFS.

Tra bydd y CFS a mathau eraill o gyfriflenni yn cael eu tynnu yn ôl yn araf, bydd hyn yn digwydd o fewn amserlen sydd wedi ei chyfleu yn glir gan ystyried cynlluniau trosglwyddo’r sefydliadau y bydd yn effeithio arnynt.

Bydd hyn yn arwain at weld yr SFS a chyfriflenni ariannol eraill yn cael eu defnyddio ochr yn ochr am gyfnod ar ôl i’r SFS gael ei lansio.

Rydym hefyd yn disgwyl y bydd yr SFS yn cael ei defnyddio a’i chydnabod gan bob math o gredydwyr gan gynnwys darparwyr benthyciadau credyd defnyddwyr a reoleiddir gan yr FCA ond hefyd, credydwyr llywodraeth ganolog a lleol, cyfleustodau, ac asiantaethau casglu dyledion.